Monday 17 June 2013

Joio yn Tafwyl!


Ces i amser gwych yn Ffair Tafwyl dros y penwythnos!  Mae'r gŵyl yn cael ei threfnu gan Menter Caerdydd, a mae hi wedi bod yn y gwasg yn lot dros y misoedd diwetha achos y toriadau gan Cyngor Caerdydd.  Roedd lot o bwysau ar y gŵyl i fod yn llwyddianus eleni.  Ac, yn fy marn i, gwnaethon nhw job ardderchog!

Cafodd y gŵyl ei chynnal yng Nghastell Caerdydd, felly cerddais i i fewn gyda fy ngŵr i.  Yn anffoddus, doedd y tywydd ddim yn gwych.  Ond, ro'n i'n mor falch i weld cymaint o bobl yno - mae'r pobl Caerdydd (a phobl o leoedd arall) wedi ddod allan i ei chefnogi! Iei!  Ond gwelais i llawer o bobl di-Gymraeg yno hefyd - ymwelwyr i Gaerdydd sy wedi ddod i fewn i'r Castell i weld beth oedd yn digwydd.

Ar ôl mynd am dro o gwmpas y maes, aeth fi a'r gŵr i weld y seren mawr - Matthew Rhys - yn rhoi cyfweliad i Elliw Gwawr.  Roedd e'n siarad am ei gyrfa, a'r phrofiad o fyw yn Beverly Hills.  Dwi'n falch i ddweud bod deallais i'r fwyaf o'r gyfweliad :)  Rydych chi'n gallu gweld Matthew yn siarad am Tafwyl yma.  Ar ôl y cyfweliad, roedd e'n mor neis i weld Matthew yn cerdded o gwmpas y maes ac yn siarad gyda hen ffrindiau.  Does dim lot o leoedd ble 'dych chi'n gallu gweld sêr o'r sgrin fawr jyst yn joio eu hunain!!

Es i i Babell y Dysgwyr (yn cael ei rhedeg gan Cymraeg i Oedolion, gyda noddi wrth S4C) a roedd rhaglen diddorol yno.  Nes i fwynhau sgwrs gan Lowri Haf Cooke yn fawr iawn.  Ysgrifennodd Lowri y llyfr Canllaw Bach Caerdydd (llyfr gwych!) a roedd hi'n siarad am bethau ei bod hi'n hoffi am y ddinas...a phethau nad yw hi yn hoffi!  Roedd Ioan Talfryn yn siarad ym Mhabell y Dysgwyr hefyd.  Efallai bod chi wedi gweld Ioan ar Cariad@Iaith?  Tiwtor Cymraeg yw e.  Roedd e'n ddweud bod os 'dych chi'n rhoi geiriau mawr i ddysgwyr, byddan nhw'n 'tyfu i'r faint y tanc' (fel pysgodyn).  Pwynt da!  

Roedd hi'n diwrnod hyfryd gyda cerddoriaeth, diwylliant a ffrindiau.  Roedd pob math o bobl yno - hen, ifanc, Cymry Cymraeg, a phobl sy jyst eisiau darganfod beth oedd yn digwydd.  A roedd hi'n siawns gwych i ddysgwyr fel fi i siarad a deall Cymraeg.  Yn gobeithio, bydd Cyngor Caerdydd yn weld y pwysigrwydd diwyllianol o ddigwyddiadau fel hyn.

Rx

Geirfa

  • Gwasg - media/press
  • Toriadau - cuts
  • Pwysau - pressure
  • Llwyddianus - successful
  • Cyfweliad - interview
  • Diwylliant - culture
  • Pwysigrwydd - importance
  • Digwyddiadau - events


Wednesday 5 June 2013

Mae'r amser yn hedfan!

...Dyna teimlad fi ar hyn o bryd! Bydd wers olaf Cymraeg fi wythnos nesa, a dwi methu credu bod bron deg mis wedi mynd ers dechreuais i'r Cwrs Uwch. Mae pedwar rhan i'r Cwrs Uwch, felly mae lot o ddysgu dal i wneud! Ond beth ydw i wedi dysgu dros y blwyddyn gynta?

Wel, yn fwy na rhywbeth arall, dwi'n meddwl bod mwy o hyder gyda fi nawr (mae hyder yn thema enfawr ar blog 'ma!)  Dwi'n trio i ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn fy mywyd dyddiol. Dydy hi ddim yn hawdd o gwbl; Saesneg ydy fy mam-iaith, a mae'n anodd iawn i siarad Cymraeg yn naturiol.  Ond, dwi wedi sylweddoli bod rhaid i fi ymarfer, ymarfer, ymarfer! Mae'r dosbarth Cymraeg wedi helpu eleni achos y pwyslais ar siarad Cymraeg. 

Dwi dal yn dysgu, a mae llawer mwy i wneud.  Dwi dal yn aros am y 'lightbulb moment' pan dwi'n teimlo fel siaradwr Cymraeg go-iawn!!  Ond, mae mwy o gobaith gyda fi nawr bydd y diwrnod 'na yn dod!

Dwi wedi mwynhau'r dosbarthiadau eleni yn fawr iawn, a dwi rili eisiau barhau i ddysgu. Wel, dwi wedi neud ymrwymiad nawr!!! 

Hwyl am y tro!
Rx

Geirfa

  • mam-iaith - mother tongue
  • sylweddoli - to realise
  • pwyslais - emphasis
  • go-iawn - real 
  • ymrwymiad - commitment

Wednesday 8 May 2013

Gwanwyn

Helo eto!

Wel, mae'r haul wedi dod allan, o'r diwedd, a dwi'n teimlo'n llawn o lawenydd y gwanwyn!  Dwi'n dwli ar y gwanwyn.  Dwi wastad yn ddweud bod hoff tymor fi ydy'r hydref - dwi'n hoffi'r lliwiau a theimlad yr hydref.  Ond, pan mae'r gwanwyn yn cyrraedd, dwi'n teimlo'n gwahanol!  



Mae rhywbeth arbennig am y gwanwyn; rhywbeth am y tymhorau'n troi.  Eleni, yn enwedig, mae'r gaeaf wedi bod mor hir, tywyll ac yn ddigalon.  Dwi'n cofio meddwl os fydd diwedd i'r gaeaf eleni!!  Ond, fel bob tro, mae'r gwanwyn wedi cyrraedd, mae wŷn yn y caeau, mae'r blodau yn dechrau dweud 'helo' i ni, a mae pawb yn gallu gwenu eto :)

Un o fy hoff bethau am y gwanwyn ydy 'spring clean'.  Dwi ddim yn ffan mawr o lanhau o gwbl (...ond dyna stori am ddiwrnod arall!!) ond pan mae'r gwanwyn yn dod, does dim byd fel glanhau ac yn cael 'sort out' mawr.  Dwi'n meddwl am gael 'spring clean' o'r blog 'ma hefyd.  Yn gobeithio, fydd golwg newydd yn fuan :)

Beth amdanoch chi?  Beth ydy eich hoff beth am y gwanwyn?  Hoffwn i glywed :)

Hwyl am y tro!
Rx

Geirfa

  • Llawenydd - joy / delight 
  • Tymhorau - seasons
  • Digalon - depressing / disheartening / dismal
Llun wrth laurafrantz.net 

Wednesday 17 April 2013

Blogwr Drwg

Helo helo!

Dwi heb ysgrifennu post ers tro...mor hir, nes i anghofio'r password i'r blog!!  Mae'n ddrwg 'da fi; dwi'n mynd i trio i fod yn blogwr gwell yn y dyfodol :)

Wel, mae'r Pasg ar ben (er fod wyau Pasg dal yma - iym iym!) a dwi wedi bod yn brysur iawn yn  ymarfer Cymraeg fi.  Er bod dwi heb ysgrifennu lot, dwi wedi bod yn siarad lot mwy yn Gymraeg, ac yn darllen cylchgronnau a llyfrau.  Dwi wedi gwylio mwy o raglenni Cymraeg hefyd.  Dyma 'overview'(!)...

Siarad
Dwi'n rili dechrau teimlo'n lot mwy o hyderus yn siarad yn Gymraeg gyda pobl eraill, a dwi'n meddwl mod i wedi datblygu cymaint dros y misoedd diwethaf.  Dwi ddim yn hollol siwr beth sy wedi newid, ond dwi'n rili dechrau i mwynhau siarad yn Gymraeg, yn hytrach na teimlo'n ofnus pan mae rhywun yn dweud rhywbeth yn Gymraeg i fi!!  Dwi mor ddiolchgar i ffrindiau a theulu sy wedi bod yn helpu fi, a dwi'n gwybod mod i'n lwcus iawn i gael ffrindiau sy'n mor amyneddgar!  Sialens mawr i fi ydy acennau; Gog yw gŵr fi (a lot o ein ffrindiau), ond 'dyn ni'n byw yn y De.  Ond dwi'n dechrau teimlo'n mwy cyfforddus gyda acennau gwahanol.  Mae'n helpu i wylio rhaglenni ar y teledu hefyd achos mae llwyth o acennau yno.

Darllen
Ers dechrau dysgu Cymraeg, dwi wedi bod yn darllen Lingo nawr ac yn y man.  Ond, yn ddiweddar, dydy'r cylchgrawn ddim yn teimlo fel gymaint o sialens i fi.  Dwi ddim yn cwyno am y cylchgrawn o gwbl; mae hi'n bendigedig i ddysgwyr a dwi wedi mwynhau ei darllen dros y blynyddoedd.  Felly, wythnos diwetha, prynais i Golwg.  Dwi wedi gweld Golwg o'r blaen, ond wedi teimlo bod hi'n rhy anodd i fi yn y gorffennol.  Ond, wythnos diwetha, ro'n i'n teimlo'n lot mwy cyfforddus yn ei darllen. 

Gwylio
Dwi'n trio i wylio mwy o raglenni ar S4C fel newyddion, Cyw (Y Dywysoges Fach yw hoff rhaglen Cyw fi!) ac unrhywbeth arall sy'n diddorol i mi.  Ces i fy mhrofiad cyntaf eleni gyda Can i Gymru!  A roedd hi'n eitha da i fod yn onest!  Meddyliais i bod hi'n eitha hawdd i wylio achos yr egwyliau gyda'r caneuon.  Hefyd, nes i fwynhau fod yn rhan o'r sgwrs ar Trydar!! Peth gwych achos 'dych chi'n gallu trafod y rhaglen ac yn rhannu barn.  Fel dywedais i, dwi'n meddwl bod gwylio rhaglenni Cymraeg yn helpu fi i ddeall geiriau mewn acennau gwahanol, felly dwi'n mynd i trio gwylio lot mwy o S4C.

Felly, dyna fi am y tro!  A wna i trio i fod yn blogwr gwell yn y dyfodol :)  Gobeithio eich gweld yma cyn hir

Rx

Geirfa

  • Ar ben - over / finished
  • Yn hytrach na - rather than
  • Ofnus - afraid / scared
  • Diolchgar - grateful

Thursday 14 February 2013

Rhoi'r Gorau

Paid a phoeni - dwi ddim yn rhoi'r gorau i ddysgu Cymraeg!

Mae'r Grawys wedi dechrau, y cyfnod pan fydd pobl yn meddwl am roi'r gorau i bethau am ddeugain dyddiau a deugain nosau.  Dwi wedi trio rhoi'r gorau i bethau am y Grawys yn y gorffennol - siocled, gwin, caws, bara - ond dwi wedi methu bob amser!

Dwi wedi bod yn meddwl am rhywbeth i roi lan eleni i helpu fi gyda dysgu Cymraeg.  Meddyliais i am roi'r gorau i Saesneg ... ond roedd y syniad yn tipyn bach rhy uchelgeisiol, hyd yn oed i fi!!  A ddim yn hollol ymarferol, yn arbennig yn y gweithle!!

Felly, dwi wedi penderfynu i gymryd ffordd gwahanol.  Dydy'r blog 'ma ddim am roi'r gorau; mae'r blog 'ma am ddyfalbarhad a gobaith fi i fod yn siaradwr Cymraeg.  Felly, yn hytrach na rhoi rhywbeth lan i'r Grawys, dwi'n mynd i ddyfalbarhau gyda siarad Cymraeg.

Dyma beth dwi'n gobeithio wneud dros yr wythnosau nesa...

  • Bydda i'n blog a tweet yn fwy o aml i ymarfer Cymraeg ysgrifenedig fi
  • Bydda i'n siarad gyda siaradwyr Cymraeg eraill...yn Gymraeg (ie, hollol crazy, dwi'n gwybod...!)
  • Darllena i yn Gymraeg mor aml a phosib - llyfrau, cylchgrawnau, ar y we, etc
  • Wna i trio i wylio un rhaglen (o leiaf) ar S4C bob dydd, yn dechrau gyda Pobl y Chyff heno (siawns i weld Rhys Ifans cyn iddo fe'n seren enwog!)

Wel, dyma fi am y tro.  Wela i chi cyn hir :)

Rx

Geirfa

  • Rhoi'r gorau - to give up
  • Y Grawys - Lent
  • Methu - fail
  • Uchelgeisiol - ambitious
  • Ymarferol - practical
  • Dyfalbarhad - perseverence
  • Dyfalbarhau - persevere
  • Ysgrifenedig - written

Wednesday 6 February 2013

Y Dinas Perffaith?

O, helo eto.  Sori mod i wedi bod yn dawel yn ddiweddar.  Gobeithio chi 'di bod yn cadw'n iawn :)

Rydyn ni'n siarad lot yn ein dosbarth Cymraeg ni am y lle 'dyn ni'n byw; Caerdydd.  Dwi wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd nawr, a dwi'n rili hoffi'r ddinas.  Yn fy marn i, Caerdydd ydy'r dinas perffaith. Pam?  Wel, dyma rhesymau fi...

Maint y lle
Dydy Caerdydd ddim yn rhy fawr, ond hefyd ddim yn rhy fach.  Mae'r ddinas yn accessible iawn a dwi'n rili hoffi bod fi'n abl i gerdded o gwmpas y dinas yn eitha hawdd.

Awyrgylch
Mae Caerdydd yn teimlo'n cyfeillgar iawn.  Mae'r pobl yn hyfryd ac yn barod i helpu chi (fwyaf yr amser!)  A does dim byd sy'n cymharu i Gaerdydd ar ddiwrnod rhyngwladol (ie, dwi'n siarad am rygbi!)

Amgylchedd
Dwi'n teimlo'n lwcus iawn yn fyw yng Nghaerdydd achos mae llawer o lleoedd gwyrdd.  Dwi'n rili hoffi'r parciau yng Nghaerdydd - Parc y Rhath, Parc Fictoria, Parc Bute... does dim diwedd i'r rhestr!  Mae'n neis, hefyd, i gael canol y ddinas yn agos iawn at Bae Caerdydd, sy'n teimlo'n hollol gwahanol.

Siopa
Er bod Canolfan Dewi Sant yn gwych, dwi'n rili hoffi'r siopau annibynnol yn Gaerdydd.  Mae'r arcedau yn bendigedig, a dwi'n meddwl ein bod ni'n lwcus iawn i gael cymaint o siopau annibynol sy'n diddorol ac yn rhoi synnwyr o gwahaniaeth i ganol y ddinas.  Yn arbennig, dwi wrth fy modd yn crwydro trwy Royal Arcade, yn mwynhau'r bwyd y byd yn Wally's Delicatessen neu'n chwilio am anrhegion yn Rossiters.  Gwych!

Wel, dyna rhesymau fi.  Efallai mae barnau gyda chi?  Croeso i chi eu rhannu :)

Gyda llaw, mae Lowri Haf Cooke wedi ysgrifennu llyfr am Gaerdydd a'i hoff lleodd yn y ddinas.  Enw y llyfr ydy Canllaw Bach Caerdydd.  Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen y llyfr a wnai dweud wrthoch chi beth dwi'n meddwl.

Hwyl am y tro!
Rx


Geiriadur
  • Rhesymau - reasons
  • Maint - size
  • Awyrgylch - atmosphere
  • Cyfeillgar - friendly
  • Rhyngwladol - international
  • Amgylchedd - environment
  • Annibynnol - independent
  • Crwydro - to wander




Wednesday 16 January 2013

Ar flaen fy nhafod

Helo, helo!  Neis gweld chi eto :)

Dwi mor hapus a ddiolchgar am yr ymateb i'r blog bach 'ma.  Diolch yn fawr iawn os 'dych chi wedi ymweld yn barod, neu os 'dych chi wedi re-tweeted y linc ar Twitter.  Bydd y blog yn datblygu dros amser, dwi'n siwr, ond dwi rili eisiau gwybod os 'dych chi'n hoffi'r blog (ac os 'dych chi ddim yn!), ac os oes unrhywbeth chi eisiau gweld yma.

Eniwe, on i'n meddwl dylwn i egluro'r enw.  Pam ydw i wedi dewis 'Ar Flaen Ei Thafod' am y blog 'ma?  Wel, yn fy marn i, mae'r idiom bach neis yn dweud yn union beth lot o ddysgwyr yn teimlo am ddysgu Cymraeg, yn enwedig yn y camau hwyrach o ddysgu.  Er bod dwi'n abl i siarad a ffurfio brawddegau (wel, sort of!), dwi wastad yn teimlo bod dim digon o vocab gyda fi.  A phan dwi wedi dysgu gair defnyddiol newydd, dwi'n anghofio'r gair pan dwi angen ddefnyddio fe!  O, dwi'n teimlo fel reit twpsyn weithiau!

Dwi'n hefyd siarad â fy hun yn fy mhen yn Gymraeg (...dwi'n gwybod bod chi'n neud e hefyd!)  Dwi wastad yn cael sgwrs Cymraeg gwych gyda fy hun.  Ond, yna, pan mae'r amser yn dod i siarad gyda rhywun arall yn Gymraeg, dwi'n cael panig ac yn ddim yn gallu cofio unrhywbeth!

Problem arall ydy dwi'n ffeindio dydy fy mhen ddim yn gallu cadw i fyny gyda fy ngheg!!  Does dim byd mwy rhwystredig (ie, dwi wedi defnyddio'r geiriadur am y gair 'na!) na ddim fod yn abl i rhoi dy farn di mewn sgwrs achos ti ddim yn gallu cyfieithu dy meddyliau yn ddigon cyflym.

Siwr o fod, mae'r ateb ydy ymarfer.  Dydy dysgwyr fel ni ddim yn gallu mynd i wersi Cymraeg unwaith yr wythnos yn unig ac yn disgwyl fod yn abl i siarad Cymraeg yn rhugl!  Rhaid i ni siarad, siarad, siarad.  Dwi'n trio i cymryd bob siawns ar gael i siarad Cymraeg - yma, ar Twitter, gyda gŵr fi, gyda ffrindiau, etc, etc.  Mae'n swnio'n digon hawdd ;)  Ond hyder ydy'r allwedd...a chymhelliant

Yn siarad am idioms, dwi wrth fy modd gyda nhw.  Ffefryn fi ydy, "Rwy'n barod i roi'r ffidil yn y tô!"  Gwych!  Mae lot mwy o idioms ddiddorol ar gwefan Say Something In Welsh

Neis gweld chi yma, a dewch nôl yn fuan :)

Hwyl am y tro!
Rx

Geiriadur

  • Camau - steps/stages
  • Panig - panic
  • Rhwystredig - frustrating
  • Cyfieithu - to translate
  • Meddyliau - thoughts
  • Cymhelliant - motivation
  • Ffefryn - favourite