Monday 17 June 2013

Joio yn Tafwyl!


Ces i amser gwych yn Ffair Tafwyl dros y penwythnos!  Mae'r gŵyl yn cael ei threfnu gan Menter Caerdydd, a mae hi wedi bod yn y gwasg yn lot dros y misoedd diwetha achos y toriadau gan Cyngor Caerdydd.  Roedd lot o bwysau ar y gŵyl i fod yn llwyddianus eleni.  Ac, yn fy marn i, gwnaethon nhw job ardderchog!

Cafodd y gŵyl ei chynnal yng Nghastell Caerdydd, felly cerddais i i fewn gyda fy ngŵr i.  Yn anffoddus, doedd y tywydd ddim yn gwych.  Ond, ro'n i'n mor falch i weld cymaint o bobl yno - mae'r pobl Caerdydd (a phobl o leoedd arall) wedi ddod allan i ei chefnogi! Iei!  Ond gwelais i llawer o bobl di-Gymraeg yno hefyd - ymwelwyr i Gaerdydd sy wedi ddod i fewn i'r Castell i weld beth oedd yn digwydd.

Ar ôl mynd am dro o gwmpas y maes, aeth fi a'r gŵr i weld y seren mawr - Matthew Rhys - yn rhoi cyfweliad i Elliw Gwawr.  Roedd e'n siarad am ei gyrfa, a'r phrofiad o fyw yn Beverly Hills.  Dwi'n falch i ddweud bod deallais i'r fwyaf o'r gyfweliad :)  Rydych chi'n gallu gweld Matthew yn siarad am Tafwyl yma.  Ar ôl y cyfweliad, roedd e'n mor neis i weld Matthew yn cerdded o gwmpas y maes ac yn siarad gyda hen ffrindiau.  Does dim lot o leoedd ble 'dych chi'n gallu gweld sêr o'r sgrin fawr jyst yn joio eu hunain!!

Es i i Babell y Dysgwyr (yn cael ei rhedeg gan Cymraeg i Oedolion, gyda noddi wrth S4C) a roedd rhaglen diddorol yno.  Nes i fwynhau sgwrs gan Lowri Haf Cooke yn fawr iawn.  Ysgrifennodd Lowri y llyfr Canllaw Bach Caerdydd (llyfr gwych!) a roedd hi'n siarad am bethau ei bod hi'n hoffi am y ddinas...a phethau nad yw hi yn hoffi!  Roedd Ioan Talfryn yn siarad ym Mhabell y Dysgwyr hefyd.  Efallai bod chi wedi gweld Ioan ar Cariad@Iaith?  Tiwtor Cymraeg yw e.  Roedd e'n ddweud bod os 'dych chi'n rhoi geiriau mawr i ddysgwyr, byddan nhw'n 'tyfu i'r faint y tanc' (fel pysgodyn).  Pwynt da!  

Roedd hi'n diwrnod hyfryd gyda cerddoriaeth, diwylliant a ffrindiau.  Roedd pob math o bobl yno - hen, ifanc, Cymry Cymraeg, a phobl sy jyst eisiau darganfod beth oedd yn digwydd.  A roedd hi'n siawns gwych i ddysgwyr fel fi i siarad a deall Cymraeg.  Yn gobeithio, bydd Cyngor Caerdydd yn weld y pwysigrwydd diwyllianol o ddigwyddiadau fel hyn.

Rx

Geirfa

  • Gwasg - media/press
  • Toriadau - cuts
  • Pwysau - pressure
  • Llwyddianus - successful
  • Cyfweliad - interview
  • Diwylliant - culture
  • Pwysigrwydd - importance
  • Digwyddiadau - events


Wednesday 5 June 2013

Mae'r amser yn hedfan!

...Dyna teimlad fi ar hyn o bryd! Bydd wers olaf Cymraeg fi wythnos nesa, a dwi methu credu bod bron deg mis wedi mynd ers dechreuais i'r Cwrs Uwch. Mae pedwar rhan i'r Cwrs Uwch, felly mae lot o ddysgu dal i wneud! Ond beth ydw i wedi dysgu dros y blwyddyn gynta?

Wel, yn fwy na rhywbeth arall, dwi'n meddwl bod mwy o hyder gyda fi nawr (mae hyder yn thema enfawr ar blog 'ma!)  Dwi'n trio i ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn fy mywyd dyddiol. Dydy hi ddim yn hawdd o gwbl; Saesneg ydy fy mam-iaith, a mae'n anodd iawn i siarad Cymraeg yn naturiol.  Ond, dwi wedi sylweddoli bod rhaid i fi ymarfer, ymarfer, ymarfer! Mae'r dosbarth Cymraeg wedi helpu eleni achos y pwyslais ar siarad Cymraeg. 

Dwi dal yn dysgu, a mae llawer mwy i wneud.  Dwi dal yn aros am y 'lightbulb moment' pan dwi'n teimlo fel siaradwr Cymraeg go-iawn!!  Ond, mae mwy o gobaith gyda fi nawr bydd y diwrnod 'na yn dod!

Dwi wedi mwynhau'r dosbarthiadau eleni yn fawr iawn, a dwi rili eisiau barhau i ddysgu. Wel, dwi wedi neud ymrwymiad nawr!!! 

Hwyl am y tro!
Rx

Geirfa

  • mam-iaith - mother tongue
  • sylweddoli - to realise
  • pwyslais - emphasis
  • go-iawn - real 
  • ymrwymiad - commitment